Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission
NAFWC 2012
Cofnodion cyfarfod 3 Gorffennaf 2013
Dyddiad: Dydd
Mercher 3 Gorffennaf
2013
Amser: 12.00 –
13.00
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, Tŷ
Hywel
Yn
bresennol:
Y Llywydd, y Cadeirydd
Peter Black AC
Angela Burns AC
Sandy Mewies AC
Swyddogion yn bresennol:
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc
Mike Snook, Pennaeth Ystadau a Chyswllt Cyntaf
Kevin Tumelty – Pennaeth Diogelwch
Yr Uwch-arolygydd Stephen Furnham, Heddlu De Cymru
Yr Arolygydd Ian Mackenzie Heddlu De Cymru
Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn
Eraill:
David Melding AC
Ymddiheuriadau:
Rhodri Glyn Thomas AC
1. Cyflwyniad y Cadeirydd
Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas AC.
Datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
2. Gwasanaethau'r Heddlu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae gan y Comisiwn Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Heddlu De Cymru ac, o dan y cytundeb hwn, mae'n cael cefnogaeth sy'n cynnwys uned benodedig ar safle'r Cynulliad. Cafodd y Comisiynwyr gyflwyniad gan yr Arolygydd Ian Mackenzie ar yr amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir o dan y cytundeb.
Nid oedd unrhyw bapurau ar gyfer y cyfarfod hwn.
Yr Ysgrifenyddiaeth